10 Cadw dyddiau, a misoedd, a thymhorau, a blynyddoedd, yr ydych.
11 Y mae arnaf ofn mai yn ofer yr wyf wedi llafurio ar eich rhan.
12 Rwy'n ymbil arnoch, gyfeillion, byddwch fel yr wyf fi, oherwydd fe fûm i, yn wir, fel yr oeddech chwi. Ni wnaethoch ddim cam â mi.
13 Fel y gwyddoch, ar achlysur gwendid corfforol y pregethais yr Efengyl i chwi y tro cyntaf;
14 ac er i gyflwr fy nghorff fod yn demtasiwn i chwi, ni fuoch na dibris na dirmygus ohonof, ond fy nerbyn a wnaethoch fel angel Duw, fel Crist Iesu ei hun.
15 Ble'r aeth eich llawenydd? Oherwydd gallaf dystio amdanoch, y buasech wedi tynnu'ch llygaid allan a'u rhoi i mi, petasai hynny'n bosibl.
16 A wyf fi, felly, wedi mynd yn elyn ichwi, am imi ddweud y gwir wrthych?