27 Oherwydd y mae'n ysgrifenedig:“Llawenha, y wraig ddiffrwyth nad wyt yn dwyn plant;bloeddia ganu, y wraig nad wyt fyth mewn gwewyr esgor;oherwydd y mae plant y wraig ddiymgeledd yn lluosocach na phlant y wraig sydd â gŵr ganddi.”
28 Ond yr ydych chwi, gyfeillion, fel Isaac, yn blant addewid Duw.
29 Ond fel yr oedd plentyn y cnawd gynt yn erlid plentyn yr Ysbryd, felly y mae yn awr hefyd.
30 Ond beth y mae'r Ysgrythur yn ei ddweud? “Gyrr allan y gaethferch a'i mab, oherwydd ni chaiff mab y gaethferch fyth gydetifeddu â mab y wraig rydd.”