16 Dyma yr wyf yn ei olygu: rhodiwch yn yr Ysbryd, ac ni fyddwch fyth yn cyflawni chwantau'r cnawd.
17 Oherwydd y mae chwantau'r cnawd yn erbyn yr Ysbryd, a chwantau'r Ysbryd yn erbyn y cnawd. Y maent yn tynnu'n groes i'w gilydd, fel na allwch wneud yr hyn a fynnwch.
18 Ond os ydych yn cael eich arwain gan yr Ysbryd, nid ydych dan gyfraith.
19 Y mae gweithredoedd y cnawd yn amlwg, sef puteindra, amhurdeb, anlladrwydd,
20 eilunaddoliaeth, dewiniaeth, cweryla, cynnen, eiddigedd, llidio, ymgiprys, rhwygo, ymbleidio,
21 cenfigennu, meddwi, cyfeddach, a phethau tebyg. Yr wyf yn eich rhybuddio, fel y gwneuthum o'r blaen, na chaiff y rhai sy'n gwneud y fath bethau etifeddu teyrnas Dduw.
22 Ond ffrwyth yr Ysbryd yw cariad, llawenydd, tangnefedd, goddefgarwch, caredigrwydd, daioni, ffyddlondeb, addfwynder, hunanddisgyblaeth.