7 Yr oeddech yn rhedeg yn dda. Pwy a'ch rhwystrodd chwi rhag canlyn y gwirionedd?
8 Nid oddi wrth yr hwn sy'n eich galw y daeth y perswâd yma.
9 Y mae ychydig surdoes yn suro'r holl does.
10 Yr wyf fi'n gwbl hyderus amdanoch yn yr Arglwydd, na fydd i chwi wyro yn eich barn; ond bydd rhaid i hwnnw sy'n aflonyddu arnoch ddwyn ei gosb, pwy bynnag ydyw.
11 Amdanaf fi, gyfeillion, os wyf yn parhau i bregethu'r enwaediad, pam y parheir i'm herlid? Petai hynny'n wir, byddai tramgwydd y groes wedi ei symud.
12 O na bai eich aflonyddwyr yn eu sbaddu eu hunain hefyd!
13 Fe'ch galwyd chwi, gyfeillion, i ryddid, ond yn unig peidiwch ag arfer eich rhyddid yn gyfle i'r cnawd; yn hytrach trwy gariad byddwch yn weision i'ch gilydd.