1 Fy nghyfeillion, peidiwch â thyrru i fod yn athrawon, oherwydd fe wyddoch y byddwn ni'r athrawon yn cael ein barnu'n llymach.
2 Oherwydd y mae mynych lithriad yn hanes pawb ohonom. Os gall rhywun ymgadw rhag llithro yn ei ymadrodd, dyma un perffaith, â'r gallu ganddo i ffrwyno ei holl gorff hefyd.
3 Yr ydym yn rhoi'r ffrwyn yng ngenau'r march i'w wneud yn ufudd inni, ac yna gallwn droi ei gorff cyfan.
4 A llongau yr un modd; hyd yn oed os ydynt yn llongau mawr, ac yn cael eu gyrru gan wyntoedd geirwon, gellir eu troi â llyw bychan iawn i ba gyfeiriad bynnag y mae'r peilot yn ei ddymuno.
5 Felly hefyd y mae'r tafod; aelod bychan ydyw, ond y mae'n honni pethau mawr.Ystyriwch fel y mae gwreichionen fechan yn gallu rhoi coedwig fawr ar dân.
6 A thân yw'r tafod; byd o anghyfiawnder ydyw, wedi ei osod ymhlith ein haelodau, yn halogi'r corff i gyd, ac yn rhoi holl gylch ein bodolaeth ar dân wrth iddo ef ei hun gael ei roi ar dân gan uffern.