7 Felly, ymddarostyngwch i Dduw. Gwrthsafwch y diafol, ac fe ffy oddi wrthych.
8 Nesewch at Dduw, ac fe nesâ ef atoch chwi. Glanhewch eich dwylo, chwi bechaduriaid, a phurwch eich calonnau, chwi bobl ddau feddwl.
9 Tristewch a galarwch ac wylwch. Bydded i'ch chwerthin droi'n alar a'ch llawenydd yn brudd-der.
10 Ymostyngwch o flaen yr Arglwydd, a bydd ef yn eich dyrchafu chwi.
11 Peidiwch â dilorni eich gilydd, gyfeillion; y mae'r sawl sy'n dilorni rhywun arall, neu'n ei farnu, yn dilorni'r Gyfraith ac yn barnu'r Gyfraith. Ac os wyt ti yn barnu'r Gyfraith, yna nid gwneuthurwr y Gyfraith mohonot, ond ei barnwr hi.
12 Nid oes ond un deddfroddwr a barnwr, sef yr un sy'n abl i achub a dinistrio. Pwy wyt ti i eistedd mewn barn ar dy gymydog?
13 Clywch yn awr, chwi sy'n dweud, “Heddiw neu yfory, byddwn yn mynd i'r ddinas a'r ddinas, ac fe dreuliwn flwyddyn yno yn marchnata ac yn gwneud arian.”