1 Yr adeg honno clafychodd Abeia, mab Jeroboam.
2 A dywedodd Jeroboam wrth ei wraig, “Newid dy ddiwyg rhag i neb wybod mai gwraig Jeroboam ydwyt; yna dos i Seilo, lle mae'r proffwyd Aheia, a ddywedodd wrthyf y byddwn yn frenin ar y bobl hyn.
3 Cymer yn dy law ddeg torth, teisennau a phot o fêl, a dos ato; ac fe ddywed wrthyt sut y bydd hi ar y llanc.”
4 Gwnaeth gwraig Jeroboam felly; aeth draw i Seilo a dod i dŷ Aheia. Yr oedd Aheia'n methu gweld, am fod ei lygaid wedi pylu gan henaint.