24 Wedi teyrnasu am chwe blynedd yn Tirsa, prynodd Fynydd Samaria gan Semer am ddwy dalent o arian, ac adeiladu ar y mynydd ddinas, a alwodd yn Samaria ar ôl Semer perchennog y mynydd.
25 Ond gwnaeth Omri fwy o ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD na phawb o'i flaen.
26 Dilynodd holl lwybr a phechod Jeroboam fab Nebat, a barodd i Israel bechu a digio ARGLWYDD Dduw Israel â'u heilunod.
27 Ac onid yw gweddill hanes Omri, ei hynt a'r gwrhydri a wnaeth, wedi ei ysgrifennu yn llyfr hanesion brenhinoedd Israel?
28 Pan fu farw Omri, claddwyd ef yn Samaria, a daeth ei fab Ahab yn frenin yn ei le.
29 Daeth Ahab fab Omri yn frenin ar Israel yn y ddeunawfed flwyddyn ar hugain i Asa brenin Jwda, a theyrnasodd Ahab fab Omri ar Israel yn Samaria am ddwy flynedd ar hugain.
30 Gwnaeth Ahab fab Omri fwy o ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD na phawb o'i flaen.