28 Ac meddai Michea, “Os llwyddi i ddod yn ôl, ni lefarodd yr ARGLWYDD drwof; gwrandewch chwi bobl i gyd.”
29 Aeth brenin Israel a Jehosaffat brenin Jwda i fyny i Ramoth-gilead.
30 A dywedodd brenin Israel wrth Jehosaffat, “Yr wyf fi am newid fy nillad cyn mynd i'r frwydr, ond gwisg di dy ddillad brenhinol.” Newidiodd brenin Israel ei wisg a mynd i'r frwydr.
31 Yr oedd brenin Syria wedi gorchymyn i'r deuddeg capten ar hugain oedd ganddo ar y cerbydau, “Peidiwch ag ymladd â neb, bach na mawr, ond â brenin Israel yn unig.”
32 A phan welodd capteiniaid y cerbydau Jehosaffat, dywedasant, “Hwn yn sicr yw brenin Israel.” Yna troesant i ymladd ag ef; ond rhoddodd Jehosaffat waedd,
33 a phan welodd capteiniaid y cerbydau nad brenin Israel oedd, gadawsant lonydd iddo.
34 A thynnodd rhyw ddyn ei fwa ar antur, a tharo brenin Israel rhwng y darnau cyswllt a'r llurig. A dywedodd yntau wrth yrrwr ei gerbyd, “Tro'n ôl, a dwg fi allan o'r rhengoedd, oherwydd rwyf wedi fy nghlwyfo.”