51 Oherwydd dy bobl a'th etifeddiaeth ydynt, gan mai ti a ddaeth â hwy allan o'r Aifft o ganol y ffwrnais haearn.
52 Felly bydded dy lygaid yn sylwi ar ddeisyfiad dy was a'th bobl Israel, i wrando arnynt bob tro y galwant arnat;
53 oherwydd ti sydd wedi eu neilltuo yn etifeddiaeth i ti dy hun a'u didoli oddi wrth bobloedd y byd, fel y dywedaist, O Arglwydd DDUW, drwy dy was Moses pan ddaethost â'n hynafiaid allan o'r Aifft.”
54 Wedi i Solomon orffen cyflwyno i'r ARGLWYDD yr holl weddi ac ymbil yma a'i ddwylo yn ymestyn tua'r nef, cododd o benlinio gerbron allor yr ARGLWYDD,
55 a sefyll i fendithio holl gynulleidfa Israel â llais uchel, a dweud:
56 “Bendigedig fyddo'r ARGLWYDD a roddodd orffwystra i'w bobl Israel yn hollol fel y dywedodd. Ni fethodd yr un gair o'i holl addewid ddaionus a fynegodd trwy ei was Moses.
57 Bydded yr ARGLWYDD ein Duw gyda ni fel y bu gyda'n hynafiaid ni; na fydded iddo'n gwrthod na'n gadael.