11 Meddai Duw wrth Solomon, “Gan mai dyma dy ddymuniad, ac na ofynnaist am gyfoeth na golud nac anrhydedd, nac einioes dy elynion, na hir oes i ti dy hun, ond yn hytrach am ddoethineb a deall i farnu fy mhobl y gwneuthum di'n frenin arnynt,
12 fe roddir doethineb a deall iti. Rhoddaf iti hefyd gyfoeth, golud ac anrhydedd na fu eu tebyg gan y brenhinoedd o'th flaen, ac na fydd gan y rhai ar dy ôl.”
13 Yna dychwelodd Solomon o babell y cyfarfod yn yr uchelfa yn Gibeon, a daeth i Jerwsalem, lle y teyrnasodd ar Israel.
14 Casglodd Solomon gerbydau a meirch; ac yr oedd ganddo fil a phedwar cant o gerbydau a deuddeng mil o feirch a gedwid yn y dinasoedd cerbyd a chyda'r brenin yn Jerwsalem.
15 Parodd y brenin i arian ac aur fod mor aml yn Jerwsalem â cherrig, a chedrwydd mor gyffredin â sycamorwydd y Seffela.
16 O'r Aifft a Cŵe y dôi ceffylau Solomon, a byddai porthmyn y brenin yn eu cyrchu o Cŵe am bris penodedig.
17 Byddent yn mewnforio cerbyd o'r Aifft am chwe chant o siclau arian, a cheffyl am gant a hanner, ac yn eu hallforio i holl frenhinoedd yr Hethiaid a'r Syriaid.