7 Y noson honno ymddangosodd Duw i Solomon a dweud wrtho, “Gofyn beth bynnag a fynni gennyf.”
8 Dywedodd Solomon wrth Dduw, “Buost yn ffyddlon iawn i'm tad Dafydd, a gwnaethost fi yn frenin yn ei le.
9 Yn awr, ARGLWYDD Dduw, cyflawner dy addewid i'm tad Dafydd, oherwydd gwnaethost fi'n frenin ar bobl mor aneirif â llwch y ddaear.
10 Yn awr, rho i mi ddoethineb a deall i arwain y bobl hyn, oherwydd pwy a all farnu dy bobl, sydd mor niferus?”
11 Meddai Duw wrth Solomon, “Gan mai dyma dy ddymuniad, ac na ofynnaist am gyfoeth na golud nac anrhydedd, nac einioes dy elynion, na hir oes i ti dy hun, ond yn hytrach am ddoethineb a deall i farnu fy mhobl y gwneuthum di'n frenin arnynt,
12 fe roddir doethineb a deall iti. Rhoddaf iti hefyd gyfoeth, golud ac anrhydedd na fu eu tebyg gan y brenhinoedd o'th flaen, ac na fydd gan y rhai ar dy ôl.”
13 Yna dychwelodd Solomon o babell y cyfarfod yn yr uchelfa yn Gibeon, a daeth i Jerwsalem, lle y teyrnasodd ar Israel.