28 Aeth brenin Israel a Jehosaffat brenin Jwda i fyny i Ramoth-gilead.
29 A dywedodd brenin Israel wrth Jehosaffat, “Yr wyf fi am newid fy nillad cyn mynd i'r frwydr, ond gwisg di dy ddillad brenhinol.” Newidiodd brenin Israel ei wisg, ac aethant i'r frwydr.
30 Yr oedd brenin Syria wedi gorchymyn i gapteiniaid ei gerbydau, “Peidiwch ag ymladd â neb, bach na mawr, ond â brenin Israel yn unig.”
31 A phan welodd capteiniaid y cerbydau Jehosaffat, dywedasant, “Hwn yn sicr yw brenin Israel.” Yna troesant i ymladd ag ef; ond rhoddodd Jehosaffat waedd, a chynorthwyodd yr ARGLWYDD Dduw ef trwy eu hudo oddi wrtho.
32 A phan welodd capteiniaid y cerbydau nad brenin Israel oedd, gadawsant lonydd iddo.
33 A thynnodd rhywun ei fwa ar antur, a tharo brenin Israel rhwng y darnau cyswllt a'r llurig. A dywedodd yntau wrth yrrwr ei gerbyd, “Tro'n ôl, a dwg fi allan o'r rhengoedd, oherwydd rwyf wedi fy nghlwyfo.”
34 Ond ffyrnigodd y frwydr y diwrnod hwnnw, a bu raid i frenin Israel aros yn ei gerbyd yn wynebu'r Syriaid hyd yr hwyr; yna ar fachlud haul bu farw.