10 Aeth y negeswyr o ddinas i ddinas trwy wlad Effraim a Manasse hyd at Sabulon, ond cawsant eu gwatwar a'u gwawdio.
11 Er hynny, cytunodd rhai o Aser, Manasse a Sabulon i ddod i Jerwsalem.
12 Bu llaw Duw ar Jwda hefyd yn annog y bobl i ufuddhau'n unfryd i orchymyn y brenin a'r swyddogion, yn unol â gair yr ARGLWYDD.
13 Daeth llawer iawn o bobl ynghyd i Jerwsalem yn yr ail fis i gadw gŵyl y Bara Croyw; yr oedd yn gynulliad enfawr.
14 Dechreusant symud ymaith yr allorau oedd yn Jerwsalem, ac aethant â'r holl allorau arogldarth a'u taflu i nant Cidron.
15 Yna, ar y pedwerydd dydd ar ddeg o'r ail fis, lladdasant oen y Pasg. Cywilyddiodd yr offeiriaid a'r Lefiaid am hyn; ac wedi iddynt ymgysegru, daethant â phoethoffrymau i dŷ'r ARGLWYDD.
16 Safasant yn eu lle arferol yn ôl cyfraith Moses gŵr Duw, a lluchiodd yr offeiriaid y gwaed a gawsant gan y Lefiaid.