7 Aeth â rhai o lestri tŷ'r ARGLWYDD hefyd i Fabilon a'u gosod yn ei balas yno.
8 Am weddill hanes Jehoiacim, y ffieidd-dra a wnaeth a'r cyhuddiadau yn ei erbyn, y maent wedi eu hysgrifennu yn llyfr brenhinoedd Israel a Jwda. Daeth ei fab Jehoiachin yn frenin yn ei le.
9 Deunaw mlwydd oed oedd Jehoiachin pan ddaeth yn frenin, a theyrnasodd am dri mis a deg diwrnod yn Jerwsalem. Gwnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD.
10 Ar droad y flwyddyn, anfonodd y Brenin Nebuchadnesar i'w gyrchu i Fabilon gyda'r llestri gorau o dŷ'r ARGLWYDD, a gwnaeth ei frawd Sedeceia yn frenin ar Jwda a Jerwsalem.
11 Un ar hugain oed oedd Sedeceia pan ddaeth yn frenin, a theyrnasodd am un mlynedd ar ddeg yn Jerwsalem.
12 Gwnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD ei Dduw. Gwrthododd ymostwng o flaen y proffwyd Jeremeia, a oedd yn llefaru dros yr ARGLWYDD.
13 Gwrthryfelodd hefyd yn erbyn y Brenin Nebuchadnesar, a oedd wedi gwneud iddo dyngu i Dduw. Ystyfnigodd a chaledodd ei galon rhag dychwelyd at yr ARGLWYDD, Duw Israel.