4 Wedi i holl henuriaid Israel gyrraedd, cododd y Lefiaid yr arch,
5 a chyrchodd yr offeiriaid a'r Lefiaid yr arch a phabell y cyfarfod a'r holl lestri cysegredig oedd yn y babell.
6 Ac yr oedd y Brenin Solomon, a phawb o gynulleidfa Israel oedd wedi ymgynnull ato, yno o flaen yr arch yn aberthu defaid a gwartheg rhy niferus i'w rhifo na'u cyfrif.
7 Felly y dygodd yr offeiriaid arch cyfamod yr ARGLWYDD a'i gosod yn ei lle yng nghafell y tŷ, y cysegr sancteiddiaf, dan adenydd y cerwbiaid.
8 Yr oedd y cerwbiaid yn estyn eu hadenydd dros le'r arch ac yn cysgodi dros yr arch a'i pholion.
9 Yr oedd y polion yn ymestyn allan oddi wrth yr arch, fel y gellid gweld eu blaenau o flaen y gafell, ond nid oeddent i'w gweld o'r tu allan. Ac yno y maent hyd y dydd hwn.
10 Nid oedd yn yr arch ond y ddwy lech a osododd Moses ynddi yn Horeb, lle gwnaeth yr ARGLWYDD gyfamod â'r Israeliaid pan oeddent yn dod allan o'r Aifft. Yna daeth yr offeiriaid allan o'r cysegr.