2 ac atebodd yntau bob un o'i chwestiynau; nid oedd dim yn rhy dywyll i Solomon ei esbonio iddi.
3 A phan welodd brenhines Sheba ddoethineb Solomon, a'r tŷ a adeiladodd,
4 ac arlwy ei fwrdd, eisteddiad ei swyddogion, gwasanaeth ei weision a'i drulliaid yn eu lifrai, a'i esgynfa i fyny i dŷ'r ARGLWYDD, diffygiodd ei hysbryd.
5 Addefodd wrth y brenin, “Gwir oedd yr hyn a glywais yn fy ngwlad amdanat ti a'th ddoethineb.
6 Eto nid oeddwn yn credu'r hanes nes imi ddod a gweld â'm llygaid fy hun—ac wele, ni ddywedwyd wrthyf mo'r hanner am dy ddoethineb enfawr; yr wyt yn tra rhagori ar yr hyn a glywais.
7 Gwyn fyd dy wŷr, y gweision hyn sy'n gweini'n feunyddiol arnat ac yn clywed dy ddoethineb.
8 Bendith ar yr ARGLWYDD dy Dduw, a'th hoffodd di ddigon i'th osod ar ei orseddfainc yn frenin iddo. Am i'th Dduw garu Israel a'i sefydlu am byth, y mae wedi dy wneud di'n frenin arnynt, i weinyddu barn a chyfiawnder.”