24 Sicrheaist ti dy bobl Israel i fod yn bobl i ti hyd byth; a daethost tithau, O ARGLWYDD, yn Dduw iddynt hwy.
25 Yn awr, O ARGLWYDD Dduw, cadarnha hyd byth yr addewid a wnaethost ynglŷn â'th was a'i deulu, a gwna fel y dywedaist.
26 Yna, fe fawrheir dy enw hyd byth, a dywedir, ‘ARGLWYDD y Lluoedd sydd Dduw ar Israel’; a bydd tŷ dy was Dafydd yn sicr ger dy fron.
27 Am i ti, ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel, ddatgelu hyn i'th was a dweud, ‘Adeiladaf i ti dŷ’, fe fentrodd dy was weddïo fel hyn arnat.
28 Yn awr, O Arglwydd DDUW, ti sydd Dduw; y mae d'eiriau di yn wir, ac fe addewaist y daioni hwn i'th was.
29 Felly'n awr, gwêl yn dda fendithio tŷ dy was, fel y caiff barhau am byth yn dy ŵydd; yn wir, yr wyt ti, O Arglwydd DDUW, wedi addo, a thrwy dy fendith di y bendithir tŷ dy was hyd byth.”