3 Pe baent yn ymguddio ar ben Carmel,fe chwiliwn amdanynt, a'u cymryd oddi yno;pe baent yn cuddio o'm golwg yng ngwaelod y môr,byddwn yn gorchymyn i'r ddraig eu brathu yno.
4 Pe bai eu gelynion yn eu dwyn ymaith i gaethglud,fe rown orchymyn i'm cleddyf eu lladd yno;cadwaf fy ngolwg arnynt,er drwg ac nid er da.”
5 Yr Arglwydd, DUW y Lluoedd—ef sy'n cyffwrdd â'r ddaear, a hithau'n toddi,a'i holl drigolion yn galaru;bydd i gyd yn dygyfor fel y Neil,ac yn gostwng fel afon yr Aifft;
6 ef sy'n codi ei breswylfeydd yn y nefoeddac yn sylfaenu ei gromen ar y ddaear;ef sy'n galw ar ddyfroedd y môrac yn eu tywallt dros y tir;yr ARGLWYDD yw ei enw.
7 “Onid ydych chwi fel pobl Ethiopia i mi,O bobl Israel?” medd yr ARGLWYDD.“Oni ddygais Israel i fyny o'r Aifft,a'r Philistiaid o Cafftora'r Syriaid o Cir?
8 Wele, y mae llygaid yr Arglwydd DDUWar y deyrnas bechadurus;fe'i dinistriaf oddi ar wyneb y ddaear;eto ni ddinistriaf dŷ Jacob yn llwyr,” medd yr ARGLWYDD.
9 “Wele, yr wyf yn gorchymyn,ac ysgydwaf dŷ Israel ymhlith yr holl genhedloeddfel ysgwyd gogr,heb i'r un gronyn syrthio i'r ddaear.