7 Dywedodd Samson wrthi, “Petaent yn fy rhwymo â saith llinyn bwa ir heb sychu, yna mi awn cyn wanned â dyn cyffredin.”
8 Daeth arglwyddi'r Philistiaid â saith llinyn bwa ir heb sychu iddi, a rhwymodd hithau ef â hwy.
9 Tra oedd gwylwyr cudd yn disgwyl mewn ystafell fewnol, dywedodd hi wrtho, “Y mae'r Philistiaid ar dy warthaf, Samson!” Torrodd yntau y llinynnau, fel y torrir edau garth pan ddaw'n agos at dân. Ni ddatgelwyd cyfrinach ei gryfder.
10 Ac meddai Delila wrth Samson, “Dyma ti wedi gwneud ffŵl ohonof a dweud celwydd wrthyf; yn awr dywed wrthyf yn iawn sut y rhwymir di.”
11 Dywedodd yntau, “Pe rhwyment fi â rhaffau newydd heb fod erioed ar waith, yna mi awn cyn wanned â dyn cyffredin.”
12 Felly cymerodd Delila raffau newydd a'i rwymo â hwy, a dweud, “Y mae'r Philistiaid ar dy warthaf, Samson!” A thra oedd y gwylwyr yn parhau yn yr ystafell fewnol, torrodd ef y rhaffau oddi ar ei freichiau fel edau.
13 Ac meddai Delila wrth Samson, “Hyd yn hyn yr wyt wedi gwneud ffŵl ohonof a dweud celwydd wrthyf; dywed wrthyf yn iawn sut y rhwymir di.” Dywedodd wrthi, “Pe baet yn gwau saith cudyn fy mhen i'r we, ac yn ei thynhau â'r hoelen, yna mi awn cyn wanned â dyn cyffredin.”