1 Dyma eiriau'r llyfr a ysgrifennodd Baruch fab Nereia, fab Maaseia, fab Sedeceia, fab Asadeia, fab Chelcias, ym Mabilon
2 yn y bumed flwyddyn, a'r seithfed dydd o'r mis, yr adeg y goresgynnodd y Caldeaid Jerwsalem a'i llosgi.
3 Darllenodd Baruch eiriau'r llyfr hwn yng nghlyw Jechoneia, mab Joachim brenin Jwda, ac yng nghlyw pawb o'r bobl a ddaeth i'w glywed:
4 y rhai mawr, y rhai o linach frenhinol, yr henuriaid, a phawb o'r bobl, o'r lleiaf hyd y mwyaf—pawb yn wir oedd yn byw ar lan Afon Swd ym Mabilon.