23 gwnaf i lais gorfoledd a llais llawenydd, llais priodfab a llais priodferch, dewi yn nhrefi Jwda ac yn Jerwsalem; bydd yr holl wlad yn ddiffeithwch anghyfannedd.’
24 Ond ni wrandawsom ar dy lais a gwasanaethu brenin Babilon. Felly cyflawnaist y geiriau a leferaist trwy dy weision y proffwydi: bod esgyrn ein brenhinoedd ac esgyrn ein hynafiaid i'w dwyn allan o'u beddau.
25 A dyna lle maent, wedi eu taflu allan i wres y dydd ac i rew y nos, ar ôl marw mewn poenau dygn, trwy newyn, trwy gleddyf a thrwy haint.
26 Ac ar gyfrif drygioni tŷ Israel a thŷ Jwda, peraist i'r tŷ a alwyd wrth dy enw fod fel y mae hyd y dydd hwn.
27 “Eto, O Arglwydd ein Duw, gweithredaist tuag atom yn ôl eithaf dy dynerwch ac yn ôl eithaf dy drugaredd fawr.
28 Fel y lleferaist trwy dy was Moses yn y dydd y gorchmynnaist iddo ysgrifennu dy gyfraith gerbron plant Israel:
29 ‘Os na wrandewch ar fy llais, fe droir yr haid enfawr a lluosog hon yn ddyrnaid bach ymhlith y cenhedloedd lle y gwasgaraf hwy.