15 Pwy sydd wedi cael hyd i drigle doethineb? Pwy sydd wedi mynd i mewn i'w thrysorfa hi?
16 Pa le y mae llywodraethwyr y cenhedloedd, a'r rhai sy'n dofi anifeiliaid gwyllt y ddaear, a'r rhai sy'n hudo adar yr awyr?
17 Pa le y mae'r rhai sy'n pentyrru'r arian a'r aur y mae pobl yn ymddiried ynddynt, ac yn ymgiprys amdanynt yn ddiddiwedd?
18 Pa le y mae'r gofaint arian, a'u gofal mawr a chyfrinion eu crefft?
19 Y maent wedi diflannu a disgyn i Drigfan y Meirw, ac eraill wedi codi i gymryd eu lle.
20 Daeth cenhedlaeth newydd i weld golau dydd ac i breswylio ar y ddaear, ond heb ddysgu ffordd gwybodaeth,
21 na darganfod ei llwybrau na chael gafael arni; ac y mae eu plant hwythau wedi crwydro ymhell oddi ar eu ffordd.