3 Yr wyf fi'n eiddo fy nghariad,ac yntau'n eiddof finnau;y mae'n bugeilio ymysg y lilïau.
4 Yr wyt yn brydferth fel Tirsa, f'anwylyd,yn hardd fel Jerwsalem,mor urddasol â llu banerog.
5 Tro dy lygaid oddi wrthyf,y maent yn fy nghyffroi;y mae dy wallt fel diadell o eifryn dod i lawr o Fynydd Gilead.
6 Y mae dy ddannedd fel diadell o ddefaidyn dod i fyny o'r olchfa,y cwbl ohonynt yn efeilliaid,heb un yn amddifad.
7 Y tu ôl i'th orchudd y mae dy arlaisfel darn o bomgranad.
8 Er bod trigain o freninesaua phedwar ugain o ordderchwragedd,a llancesau na ellir eu rhifo,
9 y mae fy ngholomen, yr un berffaith,ar ei phen ei hun,unig blentyn ei mam,y lanaf yng ngolwg yr un a esgorodd arni.Gwelodd y merched hi a'i galw'n ddedwydd,ac y mae breninesau a gordderchwragedd yn ei chlodfori.