6 Mor brydferth, mor hardd wyt,fy anwylyd, y fwyaf dymunol.
7 Y mae dy gorff fel palmwydden,a'th fronnau fel clwstwr o'i ffrwythau.
8 Dywedais, “Dringaf y balmwydden,a gafael yn ei brigau.”Bydded dy fronnau fel clwstwr o rawnwin,ac arogl dy anadl fel afalau,
9 a'th wefusau fel y gwin gorauyn llifo'n esmwyth mewn cariad,ac yn llithro rhwng gwefusau a dannedd.
10 Yr wyf fi'n eiddo i'm cariad,ac yntau'n fy chwennych.
11 Tyrd, fy nghariad, gad inni fynd allan i'r maes,a threulio'r nos ymysg y llwyni henna.
12 Gad inni fynd yn fore i'r gwinllannoedd,i edrych a yw'r winwydden yn blaguro,a'i blodau yn agor,a'r pomgranadau yn blodeuo;yno fe ddangosaf fy nghariad tuag atat.