1 Arglwydd hollalluog,Duw ein hynafiaid ni,Duw Abraham, Isaac a Jacob,a'u hiliogaeth gyfiawn hwy;
2 ti a wnaeth nef a daear a holl ysblander eu trefn,
3 ti a rwymodd y môr â gair dy orchymyn,ti a glodd y dyfnder a'i selio â'th enw ofnadwy a gogoneddus;
4 y mae pob peth yn crynu ac yn dychrynu gerbron dy allu di.