5 Y mae balchder Israel yn tystio yn ei erbyn;syrth Israel ac Effraim trwy eu camwedd,syrth Jwda hefyd gyda hwy.
6 Ânt gyda'u defaid a'u gwartheg i geisio'r ARGLWYDD,ond heb ei gael—ciliodd oddi wrthynt.
7 Buont dwyllodrus i'r ARGLWYDD, gan iddynt eni plant anghyfreithlon.Yn awr, fe ddifa'r gorthrymydd eu rhandiroedd.
8 “Canwch utgorn yn Gibea a thrwmped yn Rama;rhowch floedd yn Beth-afen: ‘Ar dy ôl di, Benjamin!’
9 Bydd Effraim yn anrhaith yn nydd y cosbi;mynegaf yr hyn sydd sicr ymysg llwythau Israel.
10 Y mae tywysogion Jwda fel rhai sy'n symud terfyn;bwriaf fy llid arnynt fel dyfroedd.
11 Gorthrymwyd Effraim, fe'i drylliwyd trwy farn,oherwydd iddo ddewis dilyn gwagedd.