1 Yna daeth gair yr ARGLWYDD at Jona yr eildro a dweud,
2 “Cod, dos i Ninefe, y ddinas fawr, a llefara wrthi y neges a ddywedaf fi wrthyt.”
3 Cododd Jona a mynd i Ninefe yn ôl gair yr ARGLWYDD. Yr oedd Ninefe'n ddinas fawr iawn, yn daith tridiau ar ei thraws.
4 Yna dechreuodd Jona fynd trwy'r ddinas, ac wedi mynd daith un diwrnod cyhoeddodd, “Ymhen deugain diwrnod fe ddymchwelir Ninefe.”
5 Credodd pobl Ninefe yn Nuw, a chyhoeddasant ympryd a gwisgo sachliain, o'r mwyaf hyd y lleiaf ohonynt.
6 A phan ddaeth y newydd at frenin Ninefe, cododd yntau oddi ar ei orsedd, a diosg ei fantell a gwisgo sachliain ac eistedd mewn lludw.
7 Gwnaeth broclamasiwn a'i gyhoeddi yn Ninefe:“Trwy orchymyn y brenin a'i uchelwyr:“Na fydded i ddyn nac anifail, gwartheg na defaid, brofi dim; na fydded iddynt fwyta nac yfed.