15 Yn ei law dde y mae ganddo ddagr a bwyell, ond ni all ei waredu ei hun rhag rhyfel na lladron.
16 Y mae'n amlwg wrth hyn nad duwiau mohonynt. Felly peidiwch â'u hofni.
17 Fel y mae llestr wedi ei dorri yn ddiwerth i neb, felly y mae eu duwiau hwy, wedi iddynt gael eu gosod yn eu temlau. Llenwir eu llygaid â llwch o draed y rhai a ddaw i mewn.
18 Fel y caeir pyrth yn wyneb dyn sy'n euog o deyrnfradwriaeth, fel dyn dan ddedfryd marwolaeth, felly y mae'r offeiriaid yn diogelu temlau'r duwiau â drysau a bolltau a chloeau, rhag i ladron eu hysbeilio.
19 Y maent yn cynnau lampau o'u blaen, mwy hyd yn oed nag o'u blaen eu hunain, er na all y duwiau weld yr un ohonynt.
20 Y maent fel un o drawstiau'r deml, ac eto y maent yn cael eu llyfu, megis, o'r tu mewn, wrth i greaduriaid o'r ddaear eu difa hwy a'u gwisgoedd heb yn wybod iddynt.
21 Y mae mwg o'r deml wedi duo eu hwynebau.