23 Wrth hyn bydd yn amlwg i chwi nad duwiau mohonynt. Felly peidiwch â'u hofni.
24 Er bod aur yn addurn amdanynt, ni ddisgleiriant byth heb i rywun eu sychu'n lân. Ni theimlasant ddim wrth gael eu toddi i'w llunio.
25 Er nad oes ynddynt anadl, fe'u prynwyd am bris mawr.
26 A hwythau heb draed, rhaid wrth ysgwyddau i'w cludo, a dengys hynny i bobl bethau mor wael ydynt.
27 Y mae cywilydd hyd yn oed ar y rhai sy'n eu gwasanaethu, oherwydd os digwydd i un o'u duwiau syrthio i'r llawr, ni all godi ohono'i hun. Ac o'i osod i sefyll yn syth, ni all symud ohono'i hun; neu o'i osod ar ogwydd, ni all ei unioni ei hun. Y mae offrymu iddynt fel offrymu i gyrff meirw.
28 Y mae'r offeiriaid yn gwerthu aberthau'r duwiau, ac yn defnyddio'r elw i'w dibenion eu hunain, a'u gwragedd yr un modd yn cymryd rhannau o'r aberthau ac yn eu halltu, heb roi dim i'r tlawd a'r methedig.
29 Cyffyrddir â'u haberthau gan wragedd misglwyfus a chan rai sydd newydd esgor. Gwybyddwch wrth hyn nad duwiau mohonynt, a pheidiwch â'u hofni.