39 Tebyg i gerrig o'r mynydd yw'r pethau pren hyn, gyda'u gorchudd o aur ac arian; a'u gwaradwyddo a gaiff y rhai sy'n eu gwasanaethu.
40 Pa fodd y gellir eu cyfrif neu eu galw yn dduwiau?Yn wir, y mae'r Caldeaid eu hunain yn dibrisio'r pethau hyn.
41 Oherwydd, pan welant fudan na all siarad, dônt ag ef at Bel a gwneud iddo alw arno, fel petai hwnnw'n meddu ar synhwyrau. Ac nid oes ganddynt hwythau ddigon o grebwyll i gefnu'n llwyr arnynt, gan mor ddisynnwyr ydynt.
42 Y mae'r gwragedd hefyd yn eistedd yn y strydoedd â rheffynnau amdanynt, yn llosgi eisin.
43 Ac os tynnir un ohonynt allan gan rywun sy'n mynd heibio, a hithau'n gorwedd gydag ef, y mae hi'n edliw i'w chymdoges na chafodd honno ei chyfrif mor ddeniadol â hi ei hunan, ac na thorrwyd ei rheffynnau hithau.
44 Y mae popeth sy'n ymwneud â'r delwau hyn yn gelwydd. Pa fodd y gellir eu cyfrif neu eu galw yn dduwiau?
45 Gwaith seiri a gofaint aur ydynt. Ni allant fod yn ddim amgen nag y dymuna'r crefftwyr iddynt fod.