47 Pa fodd, felly, y gellir disgwyl i'r pethau a luniwyd ganddynt fod yn dduwiau? Gadawsant i'w disgynyddion gelwydd a gwaradwydd.
48 Pan ddaw rhyfel a drygau ar eu gwarthaf, y mae'r offeiriaid yn ymgynghori am le i ymguddio gyda'u duwiau.
49 Pa fodd nad oes ganddynt synnwyr i weld nad duwiau yw'r rhai sydd heb allu i'w hachub eu hunain rhag rhyfel a drygau?
50 Gan mai pethau pren ydynt, wedi eu gorchuddio ag aur ac arian, gwybyddir wedi hynny mai ffug ydynt.
51 A bydd yn amlwg i'r holl genhedloedd a'r brenhinoedd nad duwiau mohonynt, ond gwaith dwylo dynol, heb ddim o waith Duw ynddynt o gwbl.
52 Pwy, felly, sydd heb wybod nad duwiau mohonynt?
53 Ni allant fyth osod brenin ar wlad, na rhoi glaw i bobl.