10 Onid un tad sydd gennym oll? Onid un Duw a'n creodd? Pam felly yr ydym yn dwyllodrus tuag at ein gilydd, gan ddifwyno cyfamod ein hynafiaid?
11 Bu Jwda'n dwyllodrus, a gwnaed pethau ffiaidd yn Israel ac yn Jerwsalem; oherwydd halogodd Jwda y cysegr a gâr yr ARGLWYDD trwy briodi merch duw estron.
12 Bydded i'r ARGLWYDD dorri ymaith o bebyll Jacob pwy bynnag a wna hyn, boed dyst neu ddiffynnydd, er iddo ddwyn offrwm i ARGLWYDD y Lluoedd.
13 Dyma beth arall a wnewch: yr ydych yn tywallt dagrau ar allor yr ARGLWYDD, gan wylo a galaru am nad yw ef bellach yn edrych ar eich offrwm nac yn derbyn rhodd gennych.
14 Yr ydych yn gofyn, “Pam?” Am i'r ARGLWYDD fod yn dyst rhyngot ti a gwraig dy ieuenctid, y buost yn anffyddlon iddi, er mai hi yw dy gymar a'th wraig trwy gyfamod.
15 Onid yn un y gwnaeth chwi, yn gnawd ac ysbryd? A beth yw amcan yr undod hwn, ond cael plant i Dduw? Gwyliwch arnoch eich hunain rhag bod yn anffyddlon i wraig eich ieuenctid.
16 “Oherwydd yr wyf yn casáu ysgariad,” medd ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel, “a'r sawl sy'n gwisgo trais fel dilledyn,” medd ARGLWYDD y Lluoedd. Felly, gwyliwch arnoch eich hunain rhag bod yn anffyddlon.