2 Y maent yn chwenychu meysydd ac yn eu cipio,a thai, ac yn eu meddiannu;y maent yn treisio perchennog a'i dŷ,dyn a'i etifeddiaeth.
3 Felly, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:“Wele fi'n dyfeisio yn erbyn y tylwyth hwn y fath ddrwgna all eich gwarrau ei osgoi;ni fyddwch yn cerdded yn dorsyth,oherwydd bydd yn amser drwg.
4 Yn y dydd hwnnw, gwneir dychan ohonoch,a chenir galargan chwerw a dweud,‘Yr ydym wedi'n difa'n llwyr;y mae cyfran fy mhobl yn newid dwylo.Sut y gall neb adfer i miein meysydd sydd wedi eu rhannu?’ ”
5 Am hyn, ni bydd neb i fesur i ti trwy fwrw coelbrenyng nghynulleidfa'r ARGLWYDD.
6 Fel hyn y proffwydant: “Peidiwch â phroffwydo;peidied neb â phroffwydo am hyn;ni ddaw cywilydd arnom.
7 A ddywedir hyn am dŷ Jacob?A yw'r ARGLWYDD yn ddiamynedd?Ai ei waith ef yw hyn?Onid yw fy ngeiriau'n gwneud daionii'r sawl sy'n cerdded yn uniawn?
8 ‘Ond yr ydych chwi'n codi yn erbyn fy mhobl fel gelynyn cipio ymaith fantell yr heddychol,ac yn dwyn dinistr rhyfel ar y rhai sy'n rhodio'n ddiofal.