4 Yn y dydd hwnnw, gwneir dychan ohonoch,a chenir galargan chwerw a dweud,‘Yr ydym wedi'n difa'n llwyr;y mae cyfran fy mhobl yn newid dwylo.Sut y gall neb adfer i miein meysydd sydd wedi eu rhannu?’ ”
5 Am hyn, ni bydd neb i fesur i ti trwy fwrw coelbrenyng nghynulleidfa'r ARGLWYDD.
6 Fel hyn y proffwydant: “Peidiwch â phroffwydo;peidied neb â phroffwydo am hyn;ni ddaw cywilydd arnom.
7 A ddywedir hyn am dŷ Jacob?A yw'r ARGLWYDD yn ddiamynedd?Ai ei waith ef yw hyn?Onid yw fy ngeiriau'n gwneud daionii'r sawl sy'n cerdded yn uniawn?
8 ‘Ond yr ydych chwi'n codi yn erbyn fy mhobl fel gelynyn cipio ymaith fantell yr heddychol,ac yn dwyn dinistr rhyfel ar y rhai sy'n rhodio'n ddiofal.
9 Yr ydych yn troi gwragedd fy mhobl o'u tai dymunol,ac yn dwyn eu llety oddi ar eu plant am byth.
10 Codwch! Ewch! Nid oes yma orffwysfa i chwi,oherwydd yr aflendid sy'n dinistrio â dinistr creulon.