3 Bydd ef yn barnu rhwng cenhedloedd,ac yn torri'r ddadl i bobloedd cryfion o bell;byddant hwy'n curo'u cleddyfau'n geibiau,a'u gwaywffyn yn grymanau.Ni chyfyd cenedl gleddyf yn erbyn cenedl,ac ni ddysgant ryfel mwyach;
4 a bydd pob un yn eistedd dan ei winwyddena than ei ffigysbren, heb neb i'w ddychryn.Oherwydd genau ARGLWYDD y Lluoedd a lefarodd.
5 Rhodia pob un o'r cenhedloedd yn enw ei duw,ac fe rodiwn ninnau yn enw'r ARGLWYDD ein Duw dros byth.
6 “Yn y dydd hwnnw,” medd yr ARGLWYDD,“fe gasglaf y cloff,a chynnull y rhai a wasgarwyda'r rhai a gosbais;
7 a gwnaf weddill o'r cloff,a chenedl gref o'r gwasgaredig,a theyrnasa'r ARGLWYDD drostynt ym Mynydd Seionyn awr a hyd byth.
8 A thithau, tŵr y ddiadell, mynydd merch Seion,i ti y daw, ie, y daw y llywodraeth a fu,y frenhiniaeth i ferch Jerwsalem.”
9 “Pam yn awr yr wyt yn llefain yn uchel?Onid oes gennyt frenin?A yw dy gynghorwyr wedi darfod,nes bod poenau, fel gwewyr gwraig yn esgor, wedi cydio ynot?”