26 Pan glywsant y gweiddi yn yr ardd, rhuthrodd gweision y tŷ i mewn trwy ddrws yr ochr i weld beth oedd wedi digwydd iddi.
27 Ar ôl i'r henuriaid adrodd eu stori, cododd cywilydd mawr ar y gweision, oherwydd ni chlywyd erioed o'r blaen y fath beth am Swsanna.
28 Trannoeth, pan ddaeth y bobl ynghyd i dŷ Joacim, ei gŵr, daeth y ddau henuriad, yn llawn o'u bwriad camweddus i roi Swsanna i farwolaeth.
29 Dywedasant gerbron y bobl: “Anfonwch am Swsanna ferch Hilceia, sy'n wraig i Joacim.” Anfonwyd amdani.
30 Daeth hithau gyda'i rhieni a'i phlant a'i holl berthnasau.
31 Yr oedd Swsanna yn wraig hynod o lednais a phrydferth ei golwg.
32 Yr oedd ei hwyneb wedi ei orchuddio, a gorchmynnodd y dihirod dynnu ymaith ei gorchudd, er mwyn iddynt wledda ar ei phrydferthwch.