30 Daeth hithau gyda'i rhieni a'i phlant a'i holl berthnasau.
31 Yr oedd Swsanna yn wraig hynod o lednais a phrydferth ei golwg.
32 Yr oedd ei hwyneb wedi ei orchuddio, a gorchmynnodd y dihirod dynnu ymaith ei gorchudd, er mwyn iddynt wledda ar ei phrydferthwch.
33 Dechreuodd ei theulu wylo, a phawb a'i gwelodd.
34 Yna cododd y ddau henuriad yng nghanol y bobl, a gosod eu dwylo ar ei phen.
35 Edrychodd hithau, gan wylo, tua'r nefoedd, am fod ei chalon yn ymddiried yn yr Arglwydd.
36 Meddai'r henuriaid: “Yr oeddem yn cerdded yn yr ardd wrthym ein hunain, pan ddaeth hon i mewn gyda dwy forwyn. Fe gaeodd hi ddrysau'r ardd ac anfon y morynion i ffwrdd.