5 Y flwyddyn honno fe benodwyd dau henuriad o blith y bobl i fod yn farnwyr—dau y cyfeiriodd yr Arglwydd atynt pan ddywedodd: “Daeth camwedd allan o Fabilon, o blith yr henuriaid oedd yn farnwyr, rhai y tybid eu bod yn arwain y bobl.”
6 Byddai'r rhain yn treulio'u hamser yn nhŷ Joacim, ac atynt y deuai pawb oedd ag achos i'w farnu.
7 Wedi i'r bobl ymadael ganol dydd, byddai Swsanna yn mynd am dro yng ngardd ei gŵr.
8 Bob dydd byddai'r ddau henuriad yn ei gwylio hi'n mynd am dro, a daeth blys amdani arnynt.
9 Wedi gwyrdroi eu synnwyr a throi eu llygaid rhag edrych i gyfeiriad y nefoedd a rhag dwyn i gof gyfiawnder barn,
10 yr oedd y ddau wedi gwirioni arni; ond ni chyfaddefodd y naill ei wewyr wrth y llall,
11 am fod arnynt gywilydd cyfaddef eu blys a'u chwant am orwedd gyda hi.