50 Troes y bobl i gyd yn ôl ar frys, a dywedodd yr henuriaid eraill wrtho, “Tyrd i eistedd yn ein plith ni, ac esbonia'r mater inni, oherwydd y mae Duw wedi rhoi i ti safle henuriad.”
51 Atebodd Daniel: “Gosodwch y ddau ar wahân, ymhell oddi wrth ei gilydd, ac yna fe'u holaf.”
52 Wedi eu gosod ar wahân, galwodd Daniel un ohonynt a dweud wrtho, “Ti sydd yn hen law mewn drygioni, y mae'r pechodau a wnaethost gynt bellach wedi dod i olau dydd:
53 barnu'n anghyfiawn, condemnio'r dieuog, gollwng yn rhydd yr euog, er i'r Arglwydd ddweud, ‘Na ladd y dieuog a'r cyfiawn.’
54 Yn awr, os yn wir y gwelaist y wraig hon, dywed o dan ba goeden y gwelaist hwy'n cydorwedd.” Atebodd yntau, “O dan gollen.”
55 “Yn hollol,” meddai Daniel, “dywedaist gelwydd yn dy erbyn dy hun, oherwydd y mae angel Duw eisoes wedi derbyn collfarn Duw i'th hollti'n ddau.”
56 Troes ef o'r neilltu, a gorchymyn dwyn yr henuriad arall gerbron. Meddai wrth hwnnw, “Nid had Jwda mohonot, tydi epil Canaan; y mae prydferthwch wedi dy hudo, a blys wedi gwyrdroi dy galon.