8 Bob dydd byddai'r ddau henuriad yn ei gwylio hi'n mynd am dro, a daeth blys amdani arnynt.
9 Wedi gwyrdroi eu synnwyr a throi eu llygaid rhag edrych i gyfeiriad y nefoedd a rhag dwyn i gof gyfiawnder barn,
10 yr oedd y ddau wedi gwirioni arni; ond ni chyfaddefodd y naill ei wewyr wrth y llall,
11 am fod arnynt gywilydd cyfaddef eu blys a'u chwant am orwedd gyda hi.
12 Ddydd ar ôl dydd disgwylient yn awchus am gyfle i'w gweld.
13 “Gadewch inni fynd adref,” meddai un wrth y llall, “y mae'n amser cinio.”
14 Aethant i ffwrdd ac ymwahanu, ond troesant yn ôl a dod i'r un lle eto. Wrth groesholi ei gilydd, daethant i gyfaddef eu blys. Yna trefnasant gyda'i gilydd ar amser cyfleus i allu ei chael hi ar ei phen ei hun.