1 Geiriau'r Pregethwr, mab Dafydd, brenin yn Jerwsalem:
2 “Gwagedd llwyr,” meddai'r Pregethwr,“gwagedd llwyr yw'r cyfan.”
3 Pa elw sydd i neb yn ei holl lafur,wrth iddo ymlafnio dan yr haul?
4 Y mae cenhedlaeth yn mynd, ac un arall yn dod,ond y mae'r ddaear yn aros am byth.
5 Y mae'r haul yn codi ac yn machlud,ac yn brysio'n ôl i'r lle y cododd.
6 Y mae'r gwynt yn chwythu i'r de,ac yna'n troi i'r gogledd;y mae'r gwynt yn troelli'n barhaus,ac yn dod yn ôl i'w gwrs.
7 Y mae'r holl nentydd yn rhedeg i'r môr,ond nid yw'r môr byth yn llenwi;y mae'r nentydd yn mynd yn ôl i'w tarddle,ac yna'n llifo allan eto.