3 Gras a thangnefedd i chwi oddi wrth Dduw ein Tad a'r Arglwydd Iesu Grist.
4 Yr wyf yn diolch i'm Duw bob amser amdanoch chwi, ar gyfrif y gras dwyfol a roddwyd ichwi yng Nghrist Iesu,
5 am eich cyfoethogi ynddo ef ym mhob peth, ym mhob ymadrodd a phob gwybodaeth,
6 fel bod y dystiolaeth am Grist wedi ei chadarnhau yn eich plith.
7 Oherwydd hyn, nid ydych yn ddiffygiol mewn unrhyw ddawn, wrth ichwi ddisgwyl am ddatguddiad ein Harglwydd Iesu Grist.
8 Bydd ef yn eich cadw'n gadarn hyd y diwedd, fel na bydd cyhuddiad yn eich erbyn yn Nydd ein Harglwydd Iesu Grist.
9 Y mae Duw'n ffyddlon, a thrwyddo ef y'ch galwyd chwi i gymdeithas ei Fab ef, Iesu Grist ein Harglwydd ni.