12 Gan eich bod chwi, felly, a'ch bryd ar ddoniau'r Ysbryd, ceisiwch gyflawnder o'r rhai sy'n adeiladu'r eglwys.
13 Felly, bydded i'r sawl sy'n llefaru â thafodau weddïo am y gallu i ddehongli.
14 Oherwydd os byddaf yn gweddïo â thafodau, y mae fy ysbryd yn gweddïo, ond y mae fy meddwl yn ddiffrwyth.
15 Beth a wnaf, felly? Mi weddïaf â'm hysbryd, ond mi weddïaf â'm deall hefyd. Mi ganaf â'r ysbryd, ond mi ganaf â'r deall hefyd.
16 Onid e, os byddi'n moliannu â'r ysbryd, pa fodd y gall rhywun sydd heb ei hyfforddi ddweud yr “Amen” i'r diolch yr wyt yn ei roi, os nad yw'n deall beth yr wyt yn ei ddweud?
17 Yr wyt ti'n wir yn rhoi'r diolch yn ddigon da, ond nid yw'r llall yn cael ei adeiladu.
18 Diolch i Dduw, yr wyf fi'n llefaru â thafodau yn fwy na chwi i gyd.