37 Os oes rhywun ohonoch yn tybio ei fod yn broffwyd, neu'n rhywun ysbrydol, dylai gydnabod mai gorchymyn yr Arglwydd yw'r hyn yr wyf yn ei ysgrifennu atoch.
38 Os oes rhai nad ydynt yn cydnabod hynny, ni chânt hwythau eu cydnabod.
39 Felly, fy nghyfeillion, rhowch eich bryd ar broffwydo, a pheidiwch â gwahardd llefaru â thafodau.
40 Dylid gwneud popeth yn weddus ac mewn trefn.