45 Felly, yn wir, y mae'n ysgrifenedig: “Daeth y dyn cyntaf, Adda, yn fod byw.” Ond daeth yr Adda diwethaf yn ysbryd sydd yn rhoi bywyd.
46 Eithr nid yr ysbrydol sy'n dod gyntaf, ond yr anianol, ac yna'r ysbrydol.
47 Y dyn cyntaf, o'r ddaear y mae, a llwch ydyw; ond yr ail ddyn, o'r nef y mae.
48 Y mae'r rhai sydd o'r llwch yn debyg i'r dyn o'r llwch, ac y mae'r rhai sydd o'r nef yn debyg i'r dyn o'r nef.
49 Ac fel y bu delw'r dyn o'r llwch arnom, felly hefyd y bydd delw'r dyn o'r nef arnom.
50 Hyn yr wyf yn ei olygu, gyfeillion: ni all cig a gwaed etifeddu teyrnas Dduw, ac ni all llygredigaeth etifeddu anllygredigaeth.
51 Clywch! Yr wyf yn mynegi dirgelwch ichwi: nid ydym i gyd i huno, ond yr ydym i gyd i gael ein newid, mewn eiliad, ar drawiad amrant, ar ganiad yr utgorn diwethaf.