5 I godi cywilydd arnoch yr wyf yn dweud hyn. A yw wedi dod i hyn, nad oes neb doeth yn eich plith fydd yn gallu barnu rhwng cydgredinwyr?
6 A yw credinwyr yn mynd i gyfraith â'i gilydd, a hynny gerbron anghredinwyr?
7 Yn gymaint â'ch bod yn ymgyfreithio o gwbl â'ch gilydd, yr ydych eisoes, yn wir, wedi colli'r dydd. Pam, yn hytrach, na oddefwch gam? Pam, yn hytrach, na oddefwch golled?
8 Ond gwneud cam yr ydych chwi, peri colled yr ydych, a hynny i gydgredinwyr.
9 Oni wyddoch na chaiff yr anghyfiawn etifeddu teyrnas Dduw? Peidiwch â chymryd eich camarwain; ni chaiff puteinwyr, nac eilunaddolwyr, na godinebwyr, na rhai sy'n ymlygru â'u rhyw eu hunain,
10 na lladron, na rhai trachwantus, na meddwon, na difenwyr, na chribddeilwyr, etifeddu teyrnas Dduw.
11 A dyna oedd rhai ohonoch chwi; ond yr ydych wedi'ch golchi, a'ch sancteiddio, a'ch cyfiawnhau trwy enw'r Arglwydd Iesu Grist, a thrwy Ysbryd ein Duw ni.