1 Yn awr, ynglŷn â'r pethau yn eich llythyr. Peth da yw i ddyn beidio â chyffwrdd â gwraig.
2 Ond oherwydd yr anfoesoldeb rhywiol sy'n bod, bydded gan bob dyn ei wraig ei hun, a chan bob gwraig ei gŵr ei hun.
3 Dylai'r gŵr roi i'r wraig yr hyn sy'n ddyledus iddi, a'r un modd y wraig i'r gŵr.
4 Nid y wraig biau'r hawl ar ei chorff ei hun, ond y gŵr. A'r un modd, nid y gŵr biau'r hawl ar ei gorff ei hun, ond y wraig.
5 Peidiwch â gwrthod eich gilydd, oddieithr, efallai, ichwi gytuno ar hyn dros dro er mwyn ymroi i weddi, ac yna dod ynghyd eto, rhag i Satan eich temtio oherwydd eich diffyg ymatal.
6 Ond fel goddefiad yr wyf yn dweud hyn, nid fel gorchymyn.