20 Dylai pob un aros yn y cyflwr yr oedd ynddo pan gafodd ei alw.
21 Ai caethwas oeddit pan gefaist dy alw? Paid â phoeni; ond os gelli ennill dy ryddid, cymer dy gyfle, yn hytrach na pheidio.
22 Oherwydd y sawl oedd yn gaeth pan alwyd ef i fod yn yr Arglwydd, un rhydd yr Arglwydd ydyw. Yr un modd, y sawl oedd yn rhydd pan alwyd ef, un caeth i Grist ydyw.
23 Am bris y'ch prynwyd chwi. Peidiwch â mynd yn gaeth i feistriaid dynol.
24 Gyfeillion, arhosed pob un gerbron Duw yn y cyflwr hwnnw yr oedd ynddo pan gafodd ei alw.
25 Ynglŷn â'r gwyryfon, nid oes gennyf orchymyn gan yr Arglwydd, ond yr wyf yn rhoi fy marn fel un y gellir, trwy drugaredd yr Arglwydd, ddibynnu arno.
26 Yn fy meddwl i, peth da, yn wyneb yr argyfwng sydd yn pwyso arnom, yw i bob un aros fel y mae.