5 Peidiwch â gwrthod eich gilydd, oddieithr, efallai, ichwi gytuno ar hyn dros dro er mwyn ymroi i weddi, ac yna dod ynghyd eto, rhag i Satan eich temtio oherwydd eich diffyg ymatal.
6 Ond fel goddefiad yr wyf yn dweud hyn, nid fel gorchymyn.
7 Carwn pe bai pawb fel yr wyf fi fy hunan; ond y mae gan bob un ei ddawn ei hun oddi wrth Dduw, y naill fel hyn a'r llall fel arall.
8 Yr wyf yn dweud wrth y rhai dibriod, a'r gwragedd gweddwon, mai peth da fyddai iddynt aros felly, fel finnau.
9 Ond os na allant ymatal, dylent briodi, oherwydd gwell priodi nag ymlosgi.
10 I'r rhai sydd wedi priodi yr wyf fi'n gorchymyn—na, nid fi, ond yr Arglwydd—nad yw'r wraig i ymadael â'i gŵr;
11 ond os bydd iddi ymadael, dylai aros yn ddibriod, neu gymodi â'i gŵr. A pheidied y gŵr ag ysgaru ei wraig.